Skip to content

Annual Literacy Survey 2026

15 Oct 2025 - 31 Mar 2026

RS973_Boro Book Bash 140722-46 (1)

Be part of our 2026 Annual Literacy Survey

We'd love to hear from you and your school. Please scroll down for Welsh version.

Sgroliwch i lawr am fersiwn Cymraeg.

"The insights [it] offers are fantastic and helps us to target the needs and improved experiences for pupils based on their feedback every year."

Why take part?

  • 📊 Receive a personalised school report with your pupils’ responses,
  • 📈 Compare your results nationally once the full reports are published,
  • 🧩 Use your data to inform literacy strategy, support inspections, and review your current provision,
  • 💡 Help shape the national conversation around literacy and education.

Sign up for the survey

It's time to sign-up! Please select your nation below and fill in the form:

England Northern Ireland Scotland Wales (in English) Wales (in Welsh)

Don't miss out - register early

This year, we are capping the number of sign-ups by nation to ensure balanced representation across England, Scotland, Wales, and Northern Ireland.

If your school is keen to participate, we strongly encourage you to register early to avoid missing out. Once the cap is reached in your nation, registration will close.

Please note: If you are signing up on behalf of multiple schools (e.g., within a multi-academy trust), please use a different contact email for each sign-up)

About the Annual Literacy Survey

Now in its sixteenth year, the National Literacy Trust’s Annual Literacy Survey is the largest study of its kind, capturing the voices of children and young people aged 5 to 18 across the UK.

By taking part in the 2026 Annual Literacy Survey, you will gain valuable insights into your pupils' literacy attitudes, experiences, and behaviour. Your participation will also contribute to a vital national evidence base, enabling the National Literacy Trust to track literacy trends year-on-year and inform its research, campaigns, and programmes across the UK.

This year, your involvement is especially meaningful as the survey takes place during the National Year of Reading, a nationwide celebration of reading and its power to transform the lives of children and young people.

"We look forward to using the results from this to really inform the next steps in our reading journey. The results are always really informative and help us with our development.”

Frequently Asked Questions:

Do I have to pay to take part?

No. Participation in the survey is completely free of charge.

How many surveys are available?

There are four tailored surveys designed to suit different age groups and settings (Ages 5 to 8s, Ages 8 to 18s, pupils in alternative provision, and a bespoke staff survey).

You are free to sign up for any combination that suits your setting.

How do I complete the survey with pupils?

You'll receive a school-specific link to share with pupils. The survey is conducted online and typically takes no longer than 45 minutes to complete.

How many pupils should I survey?

That's entirely up to you. However, the more responses you collect, the more representative and insightful your school's report will be.

How long do I have to complete the surveys?

You have until the end of March 2026 to complete the surveys with your pupils.

Will I receive the results?

Yes. Schools that submit at least 10 pupil responses will receive a personalised school report summarising the findings.




Byddwch yn rhan o Arolwg Llythrennedd Blynyddol 2026 – Cofrestrwch yma!

"Mae’r wybodaeth mae’n ei chynnig yn wych ac yn ein helpu i dargedu anghenion disgyblion a phrofiadau gwell iddynt ar sail eu hadborth bob blwyddyn."

Pam cymryd rhan?

  • 📊 Derbyn adroddiad wedi’i deilwra i’ch ysgol sy’n cynnwys ymatebion eich disgyblion,
  • 📈 Cymharu eich canlyniadau’n genedlaethol pan fydd yr adroddiadau llawn wedi’u cyhoeddi,
  • 🧩 Defnyddio eich data i lywio’r strategaeth lythrennedd, cefnogi arolygiadau OFSTED, ac adolygu eich darpariaeth bresennol,

💡 Helpu i ffurfio’r sgwrs genedlaethol ynglŷn â llythrennedd ac addysg.

I gofrestru, dewiswch eich gwlad isod a llenwch y ffurflen:

Lloegr Gogledd Iwerddon Yr Alban Cymru (in English) Cymru (in Welsh)

Arolwg Llythrennedd Blynyddol yr Ymddiriedolaeth Lythrennedd Genedlaethol, sydd bellach yn ei unfed flwyddyn ar bymtheg, yw’r astudiaeth fwyaf o’i bath, gan gyfleu lleisiau plant a phobl ifanc rhwng 5 a 18 oed ledled y Deyrnas Unedig. Trwy gymryd rhan yn Arolwg Llythrennedd Blynyddol 2026, byddwch yn cael gwybodaeth werthfawr am agweddau eich disgyblion at lythrennedd, eu profiadau, a’u hymddygiad. Bydd cymryd rhan hefyd yn cyfrannu at sylfaen dystiolaeth genedlaethol hollbwysig, a fydd yn galluogi’r Ymddiriedolaeth Lythrennedd Genedlaethol i olrhain tueddiadau llythrennedd o flwyddyn i flwyddyn a llywio ei hymchwil, ei hymgyrchoedd, a’i rhaglenni ledled y Deyrnas Unedig.

Eleni, bydd eich cyfraniad yn arbennig o ystyrlon oherwydd bydd yr arolwg yn cael ei gynnal yn ystod y Flwyddyn Ddarllen Genedlaethol, sef dathliad cenedlaethol o ddarllen a’i bŵer i drawsnewid bywydau plant a phobl ifanc.

Eleni, rydym yn rhoi terfyn uchaf ar nifer y cofrestriadau fesul gwlad er mwyn sicrhau cynrychiolaeth gytbwys ar draws Cymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon. Os yw’ch ysgol yn awyddus i gymryd rhan, fe’ch anogwn yn gryf i gofrestru’n gynnar er mwyn peidio â cholli’r cyfle. Pan gyrhaeddir y terfyn uchaf ar gyfer eich gwlad, ni fyddwch yn gallu cofrestru mwyach.

Sylwer: Os ydych yn cofrestru ar ran sawl ysgol (e.e., o fewn ymddiriedolaeth amlacademi), defnyddiwch gyfeiriad e-bost cyswllt gwahanol ar gyfer pob cofrestriad

"Rydym yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r canlyniadau i lywio camau nesaf ein taith ddarllen. Mae’r canlyniadau’n taflu llawer o oleuni bob tro ac yn ein helpu i ddatblygu.”

Cwestiynau Cyffredin:

Oes rhaid i mi dalu i gymryd rhan?

Nac oes. Gallwch gymryd rhan yn yr arolwg yn rhad ac am ddim.

Sawl arolwg sydd ar gael?

Mae pedwar arolwg wedi’u teilwra a luniwyd i weddu i wahanol grwpiau oedran a lleoliadau (5 i 8 oed, 8 i 18 oed, disgyblion mewn darpariaeth amgen, ac arolwg penodol ar gyfer staff).

Mae croeso i chi gofrestru ar gyfer unrhyw gyfuniad sy’n gweddu i’ch lleoliad.

Sut gallaf gyd gwblhau'r arolywg gyda disgyblion?

Byddwch yn cael dolen benodol i’ch ysgol i’w rhannu gyda’r disgyblion. Cynhelir yr arolwg ar-lein ac ni fydd yn cymryd mwy na 45 munud i’w gwblhau, fel arfer.

Faint o ddisgyblion ddylwn i eu harolwg?

Chi piau’r dewis. Fodd bynnag, po fwyaf o ymatebion a gasglwch, y mwyaf cynrychioliadol ac ystyrlon y bydd adroddiad eich ysgol.

Faint o amser fydd gennyf i gwblhau’r arolygon?

Bydd gennych tan ddiwedd mis Mawrth 2026 i gwblhau’r arolygon gyda’ch disgyblion.

A fyddaf yn cael y canlyniadau?

Byddwch. Bydd ysgolion sy’n cyflwyno o leiaf 10 ymateb gan ddisgyblion yn cael adroddiad ysgol wedi’i deilwra sy’n crynhoi’r canfyddiadau.

Back to top